Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mercher, 2 Mai 2018
Amser:
09.18 -
12.28
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4796
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AC (Cadeirydd) Hefin David AC John Griffiths AC Llyr Gruffydd AC Darren Millar AC Julie Morgan AC Mark Reckless AC |
Tystion: |
Gareth Pierce, Prif Weithredwr, CBAC Mike Ebbsworth, CBAC Philip Blaker, Cymwysterau Cymru Emyr George, Cymwysterau Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Gareth Rogers (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Joe Champion (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Michelle Brown. Nid oedd dirprwy yno ar ei rhan.
1.2 O dan Reol Sefydlog 17.24 datganodd Darren Millar AC fod ei ferch yn ymddangos yn y fideo a ddangoswyd ar ddechrau'r cyfarfod a'i fod yn llywodraethwr yn Ysgol Santes Ffraid.
2.1
Gwyliodd y Pwyllgor fideo fer.
3.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymwysterau Cymru a CBAC.
4.1
Cafodd y papurau eu nodi.
5.1
Derbyniwyd y cynnig.
6.1
Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith ar gyfer y tymor hir.
Cytunodd y byddai darnau penodol yn cael eu cwmpasu a'u trafod mewn
cyfarfod yn y dyfodol.
6.2 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i Fagloriaeth Cymru, gan lansio ymgynghoriad cyn toriad yr haf.
6.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet am y wybodaeth ddiweddaraf am Ofal Newyddenedigol, yn enwedig mewn perthynas â'r trydydd rhifyn o'r safonau newyddenedigol.
6.4 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet am eglurhad o'r sefyllfa o ran cyllid ar gyfer y Grant Darparu Plant a Theuluoedd.
6.5 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet, yn gofyn am ragor o wybodaeth am yr amserlen ar gyfer y Cod Trefniadaeth Ysgolion sydd ar ddod.
6.6 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid i dynnu sylw at bryderon ynghylch y defnydd o ddata dros dro gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyllidebau drafft.
6.7 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn amlinellu rhai materion allweddol y mae am eu hystyried fel rhan o'r cylch cyllideb nesaf, gan gynnwys ei ddisgwyliadau y darperir Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant ar gyfer y Gyllideb Ddrafft 2019 - 2020.